Elis Dafydd yn y Gadair
Cerddi’r diweddar Iwan Llwyd oedd un o brif ysgogiadau gwaith Prifardd Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, Elis Dafydd o Drefor ger Caernarfon.

Mae’r gŵr 22 oed yn astudio am radd MA ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac mae eisoes wedi dod yn ail am y Fedal Ddrama yn 2009.

Nid fo yw unig fardd y teulu, mae ei frawd Guto Dafydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ac wedi cyhoeddi cyfrol farddoniaeth.

“Mae Iwan Llwyd wedi cael dylanwad mawr iawn arna i, fo yw fy hoff fardd. Fo hefyd yw prif ddylanwad y gerdd yma ond mae beirdd eraill yn ffeindio eu ffordd i mewn i gerddi eraill gen i,”meddai Elis Dafydd.

“Hon yw fy ngherdd wleidyddol gynta’ i. Cerddi llawer mwy personol fel cerddi serch yn aml iawn ydi beth dwi’n sgwennu fel arfer.

“Ond achos bod ‘Gwreichion’ Iwan Llwyd yn gerdd wleidyddol roeddwn i’n teimlo y dylai hon fod hefyd.”

Hoelio sylw

Ifan Prys a Mari George oedd beirniaid y gystadleuaeth ac roedd y ddau yn gytûn bod gwaith Elis Dafydd yn rhagori am ei fod yn “syml a diymdrech”.

Roedd gofyn i ymgeiswyr eleni gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun Gwreichion.

Wrth draddodi, dywedodd Ifan Prys: “Dyma’r dilyniant oedd y ddau ohonom ni eisiau ei ail ddarllen o’r dechrau. Mae gan y bardd glust dda am gerdd rydd ac mae’n hoelio sylw o’r dechrau.

“Nodir dyddiad a lleoliad uwchben pob un o’i gerddi gan fynd â ni yn ôl ac ymlaen o Fangor i Gaeredin rhwng ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban a mis Chwefror 2015.  Amod o gariad yw’r gwreichion ac mae’r cariad hwn yn mynd a dod ac yn symbol o obaith / colli gobaith.

Elan Grug Muse o Aelwyd Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail o dan y ffug enw Jiskřička, gyda Iestyn Tyne o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor yn drydydd o dan y ffug enw Parisien.