Conner Marshall
Mae dyn wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio llanc 18 oed mewn maes carafanau ym Mhorthcawl ym mis Mawrth.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe blediodd David Braddon, 26, o Gwrt Attlee, Caerffili, yn euog o ladd Conner Marshall.

Bu farw Conner Marshall.18, yn dilyn ymosodiad arno ym maes carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl.

Fe ymddangosodd Braddon yn y llys drwy gyswllt fideo o’r carchar.

Cafodd yr achos ei ohirio a bydd Braddon yn cael ei ddedfrydu ar 3 Mehefin.