Moc Morgan Llun: S4C
Mae Moc Morgan, y pysgotwr, y naturiaethwr a’r darlledwr o Dregaron wedi marw yn 86 oed.

Roedd yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru. Roedd hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am gawio plu pysgota, yn ogystal â’i hunangofiant, Byd Moc.

Cafodd ei eni yn Noldre, Tregaron yn un o bump o blant.

Bu’n fyfyriwr, yn athro ac yn brifathro, yn bêl-droediwr, cynhyrchydd dramâu, ac yn arweinydd llwyfan. Bu hefyd yn gynghorydd Sir ac yn gyflwynydd radio a theledu.

Yn ei hunangofiant, Byd Moc, dywedodd mai un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd pysgota gyda chyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter.

‘Unigryw’

Moc Morgan oedd cadeirydd cyntaf y ffederasiwn pysgota Angling Cymru. Mewn datganiad, dywedodd y sefydliad ei fod wedi “gweithio’n ddiflino i uno’r tair disgyblaeth pysgota yng Nghymru.”

Meddai’r datganiad: “Roedd Moc wastad yn hyrwyddo pysgota ac mae ei waith wedi cael ei ddogfennu’n dda. Mae pysgota wedi colli dadleuwr hynod o ddylanwadol a physgotwr mawr.”

Wrth roi teyrnged iddo ar y Post Cyntaf y bore ma dywedodd y darlledwr Lyn Ebenezer bod Moc Morgan yn berson unigryw.

“Welais i ddim dyn tebyg iddo yn fy mywyd,” meddai. “Roedd e’n ddyn anhygoel, mwya’n y byd o ddyletswyddau oedd e’n gael, hapusa’i gyd oedd e.”

Dywedodd William Powell, yr AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod y wlad wedi colli “cawr mewn pysgota a darlledu.”