Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
Dathlu crefftau drwy’r oesoedd y bydd gŵyl newydd sy’n cael ei chynnal yn Sain Ffagan ddydd Mercher nesaf.

Fe fydd cyfle i weld dros 50 o grefftwyr yn Amgueddfa Werin Cymru yn arddangos crefftau traddodiadol gan gynnwys naddu meini, gwneud basgedi a rhaffau, cerfio pren, ynghyd â chrefftau’r gof, y clocsiwr a’r gwehydd.

Mae’r Ŵyl Grefftau Treftadaeth yn cael ei chynnal fel rhan o gynllun OpenArch, a noddir gan arian Ewropeaidd, ac sy’n galluogi’r Amgueddfa i groesawu crefftwyr o Gatalonia, yr Almaen, yr Eidal a Sweden. Yn sgil hyn, fe fydd cyfle i weld dulliau hela pobl cynhanesyddol yng ngogledd Ewrop, sut oedd y Rhufeiniaid yn coginio yn nwyrain yr Ymerodraeth, crochenwaith yn yr Eidal yn Oes yr Haearn, sut oedd Celtiaid Iberia yn creu basgedi a sut oedd y Llychlynwyr yn gweithio haearn.

Mae mynediad am ddim i’r Wyl, a bydd yn agored rhwng 10am a 5pm ddydd Mercher 27 Mai.