Mae’r Uchel Lys wedi cefnogi cynllun dadleuol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf fyddai’n gweld plant yr ardal yn dechrau addysg feithrin lawn amser flwyddyn yn ddiweddarach nag y maen nhw ar hyn o bryd.

Bydd y newid yn effeithio tua 3,300 o blant a’r gred yw y bydd yn arbed tua £2.16 miliwn y flwyddyn i’r cyngor – sy’n wynebu gorfod torri tua £70 miliwn ar ei gyllideb rhwng 2015-18.

Bu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol i’r toriadau wnaeth arwain at ohirio’r newid o fis Ebrill i fis Medi, fel yr oedd y cyngor wedi bwriadu gwneud yn wreiddiol.

Cafodd yr achos ei gyflwyno yn yr Uchel Lys ar ôl i ddwy fam wneud cais am adolygiad barnwrol, ond penderfynodd y barnwr bod y cyngor wedi gweithredu mewn ffordd deg wrth wneud y penderfyniad.

Newidiadau

O dan y cynllun, byddai plant tair oed yn cael cynnig 15 awr o addysg am ddim bob wythnos, yn hytrach na llefydd llawn amser.

Byddai hefyd yn golygu bod trafnidiaeth am ddim i’r ysgol yn dod i ben.

Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ynglŷn â’r penderfyniad: “Wrth i mi groesawu dyfarniad yr Uchel Lys, nid yw hwn yn gynnig fyddai wedi cael ei ystyried gan y cabinet o gwbl o dan amgylchiadau arferol heb doriadau dramatig.”