Guto Harri
Gwleidyddiaeth heb “ddychymyg, wmff, cyffro nag aeddfedrwydd” sydd i’w gael yng Nghymru ar hyn o bryd – dyna farn y darlledwr profiadol a chyn-ohebydd gwleidyddol y BBC Guto Harri yn dilyn yr etholiad cyffredinol diwetha’.

Mae hefyd wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn “sgandal” nad oes ymgeisydd o Gymru wedi cynnig ei hun fel arweinydd posib i’r blaid Lafur, o ystyried mai Cymru yw unig gadarnle’r blaid trwy Brydain erbyn hyn.

Mae Yvette Cooper ac Andy Burnham wedi ymuno yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ac mae Liz Kendall a Chuka Umunna eisoes wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio i olynu Ed Miliband.

Er ei fod yn feirniadol o’r diffyg ymgeiswyr o Gymru  sydd wedi dangos diddordeb yn yr arweinyddiaeth, mae Guto Harri hefyd yn cwestiynu os fydden nhw hyd yn oed yn deilwng o’r swydd.

“Dwi wedi difaru erioed bod gwleidyddiaeth Cymru mor llipa,” meddai Guto Harri.

“Mae pobol yn pleidleisio bron yn ddi-gwestiwn, dro ar ôl tro, i’r un blaid ac mae gennym ni’r peth agosaf, mewn cymdeithas ddemocrataidd wâr, i wladwriaeth un blaid yng Nghymru.

“Fe ddylid holi pam nad yw Owen Smith yn y ras. Mae e ar fainc flaen y Blaid Lafur. Chwarae teg i Steven Kinnock, newydd gael ei ethol mae e – falle maes o law fydd e’n dangos yr un uchelgais a’i dad.

“Ond mae’n rhaid cwestiynu pam fod pobol sydd wedi bod yn cynrychioli etholaethau Cymreig ers dros 20 mlynedd wedi gwneud cyn lleied o argraff – fel nad ydyn nhw’n deilwng, neu ddim hefo cyfle i fynd amdani.”

‘Diymadferth a llipa’

O gael Llafur mewn grym yng Nghymru ers cyflwyno datganoli, mae Guto Harri’n teimlo bod ASau Cymru wedi llaesu dwylo yn hytrach na dangos uchelgais.

Ychwanegodd: “Mae gwladwriaethau un-bleidiol yn tueddu i fod yn rhai sydd, ar y gwaethaf, yn llygredig ond ar eu gorau yn ddiymadferth ac yn llipa. Os nad oes posibilrwydd fod plaid yn colli ei lle – dyw hi ddim ar flaenau ei thraed,” meddai.

“Os nag yw hi ar flaenau ei thraed, dyw hi ddim yn gweithredu mor effeithiol ag y dyle hi. Ac yn anffodus dwi’n dod i’r casgliad hynny am natur gwleidyddiaeth Cymru dro ar ôl tro.

“Er gwaetha’r ffaith bod Llafur wedi delifro cyn lleied i Gymru, mae’r bobol sydd hefo diffyg dychymyg, wmff, aeddfedrwydd a chyffro gwleidyddol yn dal i bleidleisio Llafur.”

‘Hen gyhuddiad gan Blaid Cymru’

Yn y cyfamser, mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan wedi gwadu bod Llafur Cymru yn cymryd pleidleiswyr yn ganiataol gan ei ddisgrifio fel “hen gyhuddiad” gan Blaid Cymru.

“Dw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw wirionedd ynddo fe,” meddai.

Dywedodd bod “lot” o wersi i’w dysgu i’r blaid yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

“Beth fydden i’n dyfalu yw ein bod ni heb bontio’r gwahaniaethau rhwng gofynion y dosbarth gweithiol a chanol,” meddai Rhodri Morgan. “Mae angen gwneud y bont yna fel gwnaeth Tony Blair mor llwyddiannus.”

‘Dim swydd diriogaethol’

Wrth gael ei holi ynglŷn â’r sylw am ddiffyg ymgeiswyr Cymreig sydd yn y ras am arweinyddiaeth Llafur, fe ddywedodd yr AS Llafur dros Ddwyrain Casnewydd Paul Flynn nad yw’r arweinyddion yn cael eu dewis ar sail lleoliad:

“Dyw hi ddim yn swydd diriogaethol, mae’n fwy i’w wneud hefo personoliaeth” meddai.

“Dw i wedi rhoi fy nghefnogaeth i  Chukka Umunna am fy mod i’n credu mai fo yw’r person mwyaf deallus, apelgar ac sydd a’r record gorau wrth ddadlau.

“Wrth feddwl am fy nghyd-weithwyr yng Nghymru, y gorau ar hyn o bryd yw Nick Thomas Symonds. Fo yw’r mwyaf galluog allan o’r holl ASau Cymreig, er ei fod ond wedi bod yn AS am lai nag wythnos. “Mae Kevin Brennan hefyd yn enw posib.

“Ond mae hi’n swydd erchyll o galed, yn un o’r rhai mwyaf anodd mewn gwleidyddiaeth. Does gennych chi ddim y gefnogaeth sydd gan y Prif Weinidog ond mae disgwyl i chi ddangos yr un arweiniad a fo.”

Mae golwg360 hefyd wedi gofyn am ymateb y Blaid Lafur yng Nghymru.

Gellir darllen y cyfweliad gyda Guto Harri yn llawn yma.

Mae modd darllen y cyfweliad gyda Rhodri Morgan yn rhifyn yr wythnos hon  o Golwg.

Stori: Gwenllian Elias