Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yn Aberystwyth nos Wener i gofio am Dr Meredydd Evans.

Bydd y noson yn nhafarn y Cŵps yn dechrau am 7 o’r gloch, gyda chyfraniadau arbennig gan Angharad Tomos, Emyr Llew a Cen Llwyd.

Byddan nhw’n rhannu eu hatgofion am y dyn a’r ymgyrchydd.

Bydd y noson yn y ‘stafell dop’, sydd hefyd yn cynnwys set gerddoriaeth gan yr Hititties, yn cael ei harwain gan ‘Rocet’ Arwel Jones.

Bu farw Dr Meredydd Evans ym mis Chwefror yn 95 oed.

Fe fu’n ffigwr cenedlaethol ers 70 o flynyddoedd.

Roedd yn ganwr ac arloeswr ym myd adloniant ysgafn ac yn, ei flynyddoedd ola’, yn arweinydd ysbrydol i ymgyrchwyr iaith.