Mae aelodau bwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwrthwynebu sylwadau a gafodd eu gwneud am y Gymraeg gan Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru.

Ar raglen ‘Good Morning Wales’ ar BBC Radio Wales ddoe, dywedodd Chris Osborne fod y Gymraeg “weithiau’n mynd yn y ffordd” wrth i dwristiaid ymweld â llefydd sydd ag enwau Cymraeg arnyn nhw.

Gwnaeth y sylwadau cyn i Aelodau’r Cynulliad gyfarfod i drafod deiseb sy’n galw am greu polisi cenedlaethol i ddiogelu a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.

Ychwanegodd Osborne fod 80% o dwristiaid i Gymru’n dod o wledydd eraill Prydain, a’r rhan fwyaf o Loegr, a bod angen “gwneud pethau’n hygyrch ac i enwau llefydd fod yn hygyrch”.

Dywedodd: “Nawr rwy’n sylweddoli ei fod yn rhan fawr o beth sydd gan Gymru i’w gynnig, ac rwy’n falch iawn o hynny, ond os yw’n mynd yn y ffordd, dylai fod gwahanol ffyrdd i alluogi pobol i’w fwynhau i raddau mwy.”

‘Siomedig’

Yn dilyn cyfarfod bwrdd awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw, dywedodd ei Bencampwr Treftadaeth Elwyn Edwards: “Fel Awdurdod, cefnogwn ymgyrch Mynyddoedd Pawb ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod enwau Cymraeg yn cael eu gwarchod a’u hybu.

“Mae enwau Cymraeg yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ni – yn adlewyrchu agweddau o’n hanes, ein tirlun, ein bioamrywiaeth, ein hiaith a’n ffordd o fyw.

“Y rhinweddau hyn sy’n ein gwneud yn arbennig, yn wahanol ac yn atyniadol i ymwelwyr.

“Difyr felly yw nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe mai 2014 oedd y flwyddyn orau erioed i Gymru o ran twristiaeth wrth i nifer yr ymwelwyr o Brydain i Gymru gyrraedd 10 miliwn.

“Chlywsom ni ddim cwyn gan un o’r ymwelwyr hyn yn dweud fod yr iaith Gymraeg ‘yn y ffordd’.”

‘Sylwadau dinistriol’

Ychwanegodd Elwyn Edwards: “Fel Awdurdod, rydym yma i warchod ein treftadaeth ac mae enwau lleol yn greiddiol i’n treftadaeth.

“Unwaith y collwn ni’n henwau, fe gollwn ni’n hanes a’n treftadaeth.

“Yn y gorffennol, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd pwrpasau statudol Parciau Cenedlaethol wrth warchod a gwella harddwch, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd.

“Yr ydym felly yn siomedig â sylwadau dinistriol Cadeirydd y Gynghrair sy’n mynd yn groes i hyn.”