Un o ganolfannau Popeth Cymraeg
Mae corff dysgu Cymraeg Popeth Cymraeg wedi lansio ymgyrch sy’n gofyn am gefnogaeth gan bobol o bob cwr o’r wlad, yn dilyn “bygythiad posib” i’w ddyfodol.

Enw’r ymgyrch fydd ‘Popeth Cymraeg Am Byth’ ac mae Cymdeithas Yr Iaith, Menter Iaith Conwy a Dyfodol i’r Iaith eisoes yn ei gefnogi.

Daw wedi i reolwyr Popeth Cymraeg alw am ymchwiliad ffurfiol i “ddiffygion rheolaethol” yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, a’i hymddygiad dros yr wyth mlynedd ers ei sefydlu.

Mae Prifysgol Bangor wedi wfftio honiadau ei bod yn bwriadu “diddymu” Popeth Cymraeg gan ddweud nad oes ganddyn nhw unrhyw rym i wneud hynny oherwydd ei fod yn gwmni ac elusen annibynnol.

‘Calonogol’

“Un peth sy’n galonogol o’n safbwynt ni”, meddai Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, “ydy bod cymaint o bobol yn fodlon mynegi’u cefnogaeth i ni fel corff a’r hyn ‘dyn ni wedi’i gyflawni.

“Rydym wedi bod wrthi’n gwasanaethu dysgwyr Cymraeg yn y rhan hon o Gymru ers 25 mlynedd a dyn ni’n bwriadu bod yma am byth.  Slogan ein hymgyrch, felly, fydd ‘Popeth Cymraeg Am Byth.’”

Cyn bo hir, fe fydd Popeth Cymraeg hefyd yn agor gwefan er mwyn cyhoeddi negeseuon a fideos byrion gan unigolion a grwpiau cefnogol.

Y corff

Mae Popeth Cymraeg yn gorff a grëwyd yn sgil galwad gan ddysgwr Cymraeg lleol ym 1988 i sefydlu canolfan iaith yn Ninbych.

Erbyn hyn mae Popeth Cymraeg wedi agor dwy ganolfan arall yn Llanrwst a Bae Colwyn ac yn y broses o agor pedwerydd ym Mhrestatyn.

Cefnogaeth

Meddai Ffred Ffransis, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n hanu o waelod Dyffryn Clwyd lle sefydlwyd y ganolfan: “Rydyn ni’n credu bod y ganolfan yn gwneud gwaith pwysig.

“Rydyn ni’n gefnogol iawn o’r fenter sy’n gwneud cyfraniad pwysig yn y maes dysgu Cymraeg yn yr ardal. Mae’n fudiad a gafodd ei sefydlu o’r gwaelod i fyny, gyda chefnogaeth nifer o aelodau’r Gymdeithas.”

Dywedodd Meirion Ll Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy: “Roedd gan Popeth Cymraeg y weledigaeth i sefydlu Menter Iaith Dinbych-Conwy yn 1998 ac yno dechreuais fy ngyrfa yn y maes yma. Arweiniodd hyn at ddechrau pwyllgor o’r newydd yn 2002 er creu Menter Iaith Conwy sydd wedi datblygu’n gorff pwysig wrth weithredu’n flaengar dros y Gymraeg.”