Mae’r cyn-farnwr, Dewi Watcyn Powell, wedi marw yn 93 mlwydd oed.

Yn ogystal â bod yn ffigwr amlwg ym myd y gyfraith, roedd yn aelod triw o Blaid Cymru ac yn ymgyrchydd iaith.

Roedd yn un o’r rhai wnaeth gyflwyno tystiolaeth o blaid datganoli mwy o bwerau i Gymru – gyda Gwynfor Evans, Chris Rees, Phil Williams a Dafydd Wigley – i Gomisiwn Crowther, neu Gomisiwn Kilbrandon, ar ddiwedd y 1960au a’r 1970au.

Roedd hefyd yn is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion, ac fe dderbyniodd y wisg wen gan Orsedd y Beirdd.

Bu’n byw mewn sawl ardal ledled Cymru gan gynnwys Nanmor, Cricieth a Chaerdydd.