Ifan Morgan Jones sydd yn eich tywys chi drwy beth i ddisgwyl ar noson yr etholiad …

Nos yfory fe fydd tîm Golwg 360 yn cynnal blog byw a fydd yn cofnodi pob tro yn y gynffon wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfri ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd Cymru’n cael sylw arbennig wrth gwrs – gyda gohebwyr yn seddi mwyaf ymylol Cymru, gan gynnwys Arfon, Ynys Môn, Llanelli, Canol a Gogledd Caerdydd, Aberconwy, ac eraill.

Bydd Dylan Iorwerth ar gael i ddadansoddi’r canlyniadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi, ac Iolo Cheung yn yr ‘ystafell droelli’ yng Nghaerdydd yn barod i gasglu ymateb y pleidiau.

Bydd sylw hefyd i chi’r darllenwyr, ac rydym yn gobeithio meithrin trafodaeth fywiog yma ar y wefan ei hun ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Un sedd i’w gwylio

Er nad yw yn sedd ymylol ar yr olwg gyntaf, un sedd a fydd yn cael sylw arbennig fydd Ceredigion.

Dyma efallai fuodd y ras etholiadol fwyaf diddorol yng Nghymru eleni, gan hawlio’r penawdau y tu hwnt i Glawdd Offa yn ogystal ag yng Nghymru.

Ac mae disgwyl y bydd yn dynn iawn hyd at y diwedd – mor dynn â waled Cardi sydd i lawr i’w geiniog olaf.

Mae Plaid Cymru yn gynyddol ffyddiog fod ganddyn nhw obaith o ddymchwel mwyafrif sylweddol yr AS presennol, Mark Williams.

Serch hynny, o edrych yn ôl ar flog byw Etholiad Cyffredinol 2010, gellid nodi bod Plaid Cymru bryd hynny hefyd yn ffyddiog o ennill yng Ngheredigion – nes tua 11.57pm ar noson yr etholiad.

Ond y tro yma mae’r polau piniwn yn awgrymu y gallai fod cyn lleied â 2,000 o bleidleisiau rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y sedd.

Mae hynny’n awgrymu y bydd ymdrechion y pleidiau i annog eu cefnogwyr i’r blychau pleidleisio yn hollbwysig.

Bydd hyn yn her ychwanegol i Blaid Cymru, o ystyried bod cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn tueddu i fod yn gryfach ymysg pleidleiswyr post (ffermwyr sy’n rhy brysur yn godro i fynychu’r blychau pleidleisio ar y diwrnod).

Nid oes disgwyl i’r canlyniad yng Ngheredigion gael eu cyhoeddi nes tua 4am. Serch hynny, bydd modd gweld yn gyflym iawn i ba gyfeiriad mae’r gwynt yn chwythu.

Pe bai gwep cefnogwyr Plaid Cymru yn dechrau disgyn tua hanner nos, bydd y gêm ar ben am bum mlynedd arall, a’r pryder wedyn ynglŷn â chadw’r sedd yn Etholiadau’r Cynulliad flwyddyn nesaf.

Rhaid iddynt obeithio y bydd hi’n noson hwyr. Gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i gael gweld!