Y dathliadau yng Nghaerfyrddin yn 1966 (llun gan Y Lolfa)
Fe fydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn tynnu sylw at arwyddocâd Caerfyrddin yn hanes etholiadol Cymru a’r Alban mewn ymweliad â’r dref ddydd Mercher, diwrnod olaf yr ymgyrch etholiadol.

Dyma lle cafodd Gwynfor Evans yn ethol yn aelod seneddol cyntaf y Blaid yn 1966, gan achosi daeargryn gwleidyddol.

Fe fu hyn yn hwb i hygrededd yr SNP i gipio etholaeth Hamilton mewn is-etholiad y flwyddyn wedyn, buddugoliaeth a osododd  y blaid honno ar y ffordd hir i’r llwyddiant ysgubol mae’n mwynhau heddiw.

“Roedd sgwâr Caerfyrddin yn orlawn, gyda chwpwl o filoedd o bobol yno,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sy’n cofio’r achlysur yn dda.

“Roedd gorfoledd anhygoel pan gyhoeddwyd o falconi neuadd y dre bod Gwynfor wedi ennill. Bu’n destun cerddi a chaneuon ac fe ymddangosodd y stori yn y wasg ledled y byd, gan gynnwys tudalen flaen y New York Times.

“Roedd buddugoliaeth y Blaid yng Nghaerfyrddin yn brawf o awydd pobl Cymru am ddatganoli, a dyna ddechrau’r broses wleidyddol a arweiniodd yn y diwedd at sefydlu’r Cynulliad.

“Mae modd dadlau hefyd bod y sefyllfa ryfeddol yn yr Alban heddiw wedi cael ei thanio gan fuddugoliaeth y Blaid yng Nghaerfyrddin yn 1966.”