Y Geltaidd yn dathlu eu buddugoliaeth
Gwelwyd golygfeydd anghredadwy ar Goedlan y Parc nos Wener, wrth i dîm Y Geltaidd ennill Cwpan Tref Aber gyda’r diweddglo mwyaf dramatig posib.

Roedd myfyrwyr Tîm yr Wythnos Golwg360 yn colli 3-0 i Toke City yn y ffeinal gyda dim ond pum munud i fynd, a’r gêm yn edrych fel ei bod hi drosodd.

Ond o nunlle, fe lwyddodd y bechgyn i sgorio tair gôl gan gynnwys dwy yn ystod yr amser ychwanegol am anafiadau i unioni’r sgôr.

Ac er iddyn nhw chwarae hanner awr arall o amser ychwanegol heb eu capten Matthew Evans, oedd wedi cael cerdyn coch, fe enillodd y Geltaidd ar giciau o’r smotyn i goroni noson fythgofiadwy.

Diweddglo dramatig

Roedd hanner cyntaf ffeinal cwpan myfyrwyr Aberystwyth yn un tawel, gyda’r un tîm yn llwyddo i greu cyfleoedd clir.

Ond ar ddechrau’r ail hanner fe gafodd Y Geltaidd gyfle i fynd ar y blaen o’r smotyn, cyn i Carwyn Eckley weld ei ergyd yn cael ei arbed.

Roedd hynny’n edrych fel petai’n mynd i gostio’r Geltaidd yn ddrud, wrth i Toke City sgorio tair gôl yn yr ail hanner.

Fe barhaodd cefnogwyr y Geltaidd i gadw sŵn, fodd bynnag, a gyda phum munud i fynd roedd hi’n edrych fel eu bod nhw wedi cael gôl gysur ar ôl i amddiffynnwr Toke roi’r bêl yn ei rwyd ei hun.

Ond nid dyna oedd ei diwedd hi, gydag Eckley yn cael ail gyfle o’r smotyn yn yr amser anafiadau ac yn sgorio y tro hwn i’w gwneud hi’n 3-2.

Ac roedd hi’n edrych fel bod y dyfarnwr ar fin chwythu ei chwiban pan gafodd y Geltaidd un cyfle arall, a Matthew Evans yn neidio a phlannu cic tin dros ben gwych i gornel bellaf y rhwyd.

Goliau’r Geltaidd, gan gynnwys ymgais acrobatig Matthew Evans, yn y fideo isod:

Penaltis

Wrth i’r Geltaidd ddathlu’r diweddglo dramatig, fe sylweddolon nhw fod Evans wedi cael ail gerdyn melyn am ddathlu gyda’r dorf ac wedi cael ei anfon o’r cae.

Ond fe lwyddon nhw i oroesi amser ychwanegol, gyda’r ddau dîm yn methu cyfleoedd i ennill y gêm.

Pan ddaeth hi i’r ciciau o’r smotyn, llwyddodd gôl geidwad y Geltaidd Gwyn Rosser i arbed un ergyd a gweld Toke yn methu’r gôl gydag ymgais arall.

Ac fe sgoriodd Ynyr James, Marc Bowen, Carwyn Eckley a Gwion Llwyd eu ciciau nhw i ennill y gwpan i Dîm yr Wythnos Golwg360 yn y modd mwyaf syfrdanol posib.

Y capten, Matthew Evans, yn edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth ddramatig: