Jamie Bevan
Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i’r Ympryd yn erbyn y Bil Cynllunio

Yn 2002, cafodd nifer o bobl eu calonogi’n fawr gan araith ‘dŵr coch clir’ Rhodri Morgan, oedd yn amlinellu gweledigaeth fwy adain chwith nag agenda Llafur Newydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae newid wedi bod: mae’r llanw wedi troi ac mae’r ‘dŵr coch’ wedi dechrau encilio.

Yn nadleuon teledu etholiadol diweddar yr arweinwyr, dywedodd Ed Miliband ei fod yn erbyn system tai a chynllunio sy’n gwasanaethu cwmnïau mawrion:

“… y broblem gyda’r farchnad tai … yw’r ffaith nad yw’n gweithio, achos bod gan ddatblygwyr mawrion afael haearnaidd ar y farchnad … a bydd Llywodraeth nesaf Llafur yn mynd i’r afael â hi …” – Ed Miliband, Dadl Teledu’r BBC, 16 Ebrill 2015

Bydd nifer fawr o bobl ar y chwith yng ngwledydd Prydain wedi bod yn falch o’i glywed yn dweud hynny. Tra bod yr ymgyrch etholiadol yn cael sylw pawb yn y cyfryngau, mae’n bosibl bod rhai gwleidyddion yng Nghaerdydd yn gobeithio na fydd neb yn sylwi eu bod yn gweithredu’n gwbl groes i’w eiriau gyda’i Bil Cynllunio.

Ar y 5ed o Fai, bydd pleidlais ar lawr y Cynulliad yng Nghaerdydd ar Fil Cynllunio lle mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflymu’r broses gynllunio drwy ganoli grym yn nwylo llai o bobl ar lefel ranbarthol, drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o’u haelodau’n rhai anetholedig.

Nid oes yr un cymal yn y Bil a fyddai’n ceisio rheoli prisiau rhent na thai er mwyn taclo tlodi ac er mwyn atal all-fudiad o bobl ifanc a rhagor o dai anfforddiadwy. Yn hytrach, maen nhw’n derbyn agenda’r datblygwyr, a’r gred mai adeiladu tai anfforddiadwy yw’r unig ffordd ymlaen. Yn ogystal, oherwydd pwysau gan ddatblygwyr mawrion, nid yw’r Llywodraeth yn fodlon sefydlu, yn unol ag argymhellion trawsbleidiol a chefnogaeth nifer ar feinciau cefn y blaid Lafur, system o asesiadau effaith iaith ar gyfer ceisiadau unigol. Dydyn nhw ddim am newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod chwaith: mae’n well ganddyn nhw ildio i’r hyn sy’n gwneud elw i’r datblygwyr yn hytrach na datblygu yn ôl anghenion lleol. Dydyn nhw ddim eisiau atal datblygiadau, megis pentrefi gwyliau ar gyfer pobl gefnog, fydd yn dod ag elw mawr i’r datblygwyr. Y Gymraeg yn erbyn elw datblygwyr yw hi, a’r datblygwyr sy’n cael ffafriaeth Llywodraeth Cymru’r Blaid Llafur. Mae’n debyg nad oes ots ganddyn nhw na fydd gan bobl leol obaith caneri o allu fforddio’r tai.

Bwriad Llywodraeth Cymru, drwy’r Bil, yw gweld penderfyniadau am ddatblygiadau tai mawrion yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol, yn hytrach na gan awdurdodau lleol. Yn wir, wrth ystyried ceisiadau, os nad yw cynghorwyr yn dilyn cyfarwyddyd eu swyddogion anetholedig, mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion gymryd y penderfyniadau oddi wrthyn nhw. Felly, bydd cynghorwyr yn cael eu cosbi am beidio â dilyn yr hyn mae swyddogion yn dweud wrthyn nhw am ei wneud. Byddech yn llygaid eich lle petaech chi’n meddwl mai dyma fyddai delfryd y datblygwyr mawrion.

Yn ein trafodaethau helaeth am y ddeddwriaeth, cafodd ei ddisgrifio gan un cyfreithiwr fel ‘siarter i ddatblygwyr’; ac mae’r croeso gwresog a roddwyd i brif ddarpariaethau’r Bil gan Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi yn adrodd cyfrolau. Mae cynigion y Bil i ganoli grym ar lefel ranbarthol, a rhoi mwy o rym yn nwylo swyddogion anetholedig yn adlewyrchu’r hyn mae’r cwmnïau mawrion wedi bod yn lobïo amdano.

Mae Naomi Luhde-Thompson o Gyfeillion y Ddaear yn cytuno gyda’r feirniadaeth honno: “Rydyn ni’n pryderu’n fawr bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddiannau preifat datblygwyr mawrion o flaen anghenion cymunedau yng Nghymru gan ddilyn newidiadau a wnaed yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw rhoi buddiannau tymor byr o flaen anghenion hirdymor cymunedau a’r amgylchedd yng Nghymru ddim yn gynaliadwy”.

Pam mae’r Llywodraeth yn rhoi buddiannau’r farchnad a chwmnïau mawrion o flaen pobl a chymunedau felly?

Mae’n adlewyrchu tueddiad peryglus yng ngwleidyddiaeth Cymru. Does dim ond angen edrych ar y cynlluniau ar gyfer adeiladu M4 newydd – ar gost o oddeutu un biliwn o bunnau, ac yn groes i ewyllys bron pawb heblaw am Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) – er mwyn gweld yr un patrwm. Mae cynghrair rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru, busnesau mawrion a’r gwasanaeth sifil yn erbyn buddiannau cymunedau.

Mae’r system tai a chynllunio’n cael effaith fawr ar gyflwr y Gymraeg fel y mae hi ar dlodi ac ar yr amgylchedd. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, roedd cwymp arall yn nifer y cymunedau lle mae mwyafrif y trigolion yn siarad Cymraeg yn ogystal â chwymp yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg. O ran niferoedd mae allfudo yn un o’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg, gyda’r system tai yn un o’r ffactorau sy’n effeithio ar hynny.

Dyna pam rydyn ni’n trefnu ympryd. Mae’r sefyllfa’n un ddifrifol, o’n safbwynt ni sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg, ie, ond hefyd o edrych yn wrthrychol ar sefyllfa democratiaeth, anghydraddoldeb a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud y safiad hwn er lles y cenedlaethau i ddod, ac er mwyn lleisio barn yn erbyn methiant ein gwleidyddion i herio’r farchnad rydd.