Mae pennaeth ysgol gynradd yn y de wedi cael ei charcharu am 12 mis wedi iddi ddwyn £30,000 o goffrau’r ysgol.

Clywodd llys bod Sian Harkin, 54, wedi defnyddio’r arian i dalu am gyfres o welliannau i’w thŷ a’i gardd.

Roedd hi wedi defnyddio sieciau, rhai gwerth £3,200 yr un, o Ysgol Gynradd Llwyncelyn, Rhondda Cynon Taf gan honni bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lloches glaw i rieni y tu allan i’r ysgol.

Ond fe roddodd hi’r arian i adeiladwr twyllodrus, neu cowboy builder, o dde Cymru, Lee Slocombe. Fe gafodd yntau ei garcharu am 43 mis ar ôl twyllo teuluoedd o werth £43,000.