Syr Michael Moritz
Mae tri biliwnydd o Gymru ar restr cyfoethogion y Sunday Times am y tro cyntaf ers 2011.

Syr Michael Moritz o Gaerdydd, sydd werth £1.75 biliwn, yw’r Cymro uchaf ar y rhestr, wedi iddo wneud ei ffortiwn trwy fuddsoddi yng nghwmnïau Google, PayPal a Yahoo.

Y ddau arall o Gymru ar y rhestr yw sylfaenydd Specsavers, Douglas Perkins (£1.4 biliwn) a pherchennog gwesty’r Celtic Manor, Syr Terry Matthews (£1.04 biliwn).

Mae Douglas Perkins yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae cyfoeth ei gwmni wedi codi 61% eleni.

Ond mae cyfoeth Syr Terry Matthews wedi gostwng £150 miliwn eleni.