Mae cwmni llaeth ac iogwrt llwyddiannus o Orllewin Cymru yn wynebu gorfod torri swyddi ar ôl colli cytundeb gydag archfarchnad Tesco.

Cyhoeddodd Tesco golledion blynyddol o £6.4 biliwn y bore ‘ma – y colledion gwaethaf yn eu hanes.

Yn sgil hyn, mae cwmnïau fel Rachel’s wedi cael gwybod na fydd eu cynnyrch yn cael ei werthu ar silffoedd Tesco o ddiwedd y mis hwn ymlaen.

Mae gan y cwmni ffatri yn Aberystwyth ac mae llefarydd wedi dweud eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 30 diwrnod ynglŷn â diswyddiadau posib a lleihau oriau gwaith.

92 o bobol sy’n cael eu cyflogi ar y safle yn ystâd ddiwydiannol Glan yr Afon ar hyn o bryd.

Effaith

“Mae Tesco yn anffodus wedi dewis cael gwared ac iogwrt Rachel’s o’i siopau ac mae ein staff wedi cael gwybod am y penderfyniad.

“Fel busnes rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau prynwyr newydd ar ôl colli cytundeb Tesco, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y cyhoeddiad ar ein cwsmeriaid a’r gweithlu.”

Mae Tesco hefyd am roir’ gorau i werthu brandiau fel bara Kingsmill.