Côr Heol y March, pencampwyr Côr Cymru
Cafodd Côr Heol y March o’r Bont Faen ym Mro Morgannwg eu coroni’n enillwyr Côr Cymru 2015 yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth neithiwr.

Fe lwyddodd yr arweinydd Eleri Roberts i guro’r dwbl wrth i ddau o’i chorau gipio gwobrwyon, gyda chôr plant Heol y March o’r Bont-faen yn dod yn fuddugol fel enillydd y gystadleuaeth a Chôr Ysgol Iolo Morganwg, hefyd o’r Bont-faen yn dod i’r brig yn y categori Cynradd.

Roedd hi’n noson fawr i Barti Llwchwr hefyd, gan mai’r parti hwn enillodd wobr ‘Dewis y Gwylwyr’ a’i harweinydd Janet Jones enillodd dlws yr arweinydd.

Y rownd derfynol

Y pum côr yn y rownd derfynol oedd Cywair o Gastell Newydd Emlyn, enillydd categori’r corau cymysg, Côr Heol y March o’r Bont-faen, enillwyr categori’r corau plant, Parti Llwchwr o gategori’r corau merched, Ysgol Gerdd Ceredigion o gategori’r corau ieuenctid,  ac enillydd rownd y corau meibion, Bechgyn Bro Taf o Gaerdydd.

Y pedwar côr yn rownd derfynol cystadleuaeth corau ysgolion cynradd Cymru oedd Côr Ysgol Iau Llangennech, Ysgol Gymraeg Teilo Sant o Landeilo , Côr Ysgol y Wern o Lanisien, a Chôr Ysgol Iolo Morganwg o’r Bont-faen.

‘Cystadleuaeth gyffrous’

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen, Heledd Cynwal: “Mae’n brofiad arbennig i gyflwyno’r gyfres hon. Dyma gystadleuaeth gyffrous â llawer o haenau gwahanol iddi.

“Yn wahanol i’r Eisteddfod, mae’r beirniaid rhyngwladol yn ddall i’r clyweliadau cychwynnol ac mae pob côr yn dechrau gyda llechen lân – dyna sy’n unigryw am Côr Cymru. Mae gweld y corau’n cymysgu â’i gilydd gefn llwyfan yn hyfryd ac mae pawb yn teimlo’n gymaint yn rhan o’r holl beth. Mae’r corau hefyd yn cael adborth yn syth, sy’n beth da.”

Cynhaliwyd Côr Cymru bob yn ail flwyddyn ers 2003, ac enillydd y gystadleuaeth yn 2013 oedd Côr y Wiber o Gastell Newydd Emlyn.