Y Beasleys
Fe fydd plac sy’ wedi ei osod ar hen gartre’r teulu sy’n cael eu cysylltu â dechreuadau’r mudiad iaith yng Nghymru, yn cael ei ddadorchuddio yfory.

Yn y 1950au daeth Rhif 2 Yr Allt, Llangennech yn adnabyddus fel cartre’ teulu’r Beasleys a fu’n brwydro am yr hawl i gael bil treth yn y Gymraeg. Dros y blynyddoedd gwrthod Eileen a Trefor Beasley dalu eu treth a bob yn dipyn aed â’u holl eiddo o’u cartre’ gan y beilïaid.

Mae Plaid Cymru Llanelli a Chymdeithas Treftadaeth y dre wedi dod at ei gilydd i dalu am blac glas a fydd yn cael ei osod ar wal y tŷ.

“Mae teimlad wedi bod ers tro y dylid nodi’r tŷ mewn modd cyhoeddus,” meddai Roger Price, Maer Llanelli ac un o’r rhai sy’n gyfrifol am drefnu’r plac. “Mae’r hyn wnaeth y teulu Beasley yn bwysig iawn i ni yn nhre’ Llanelli ac mae’n iawn ein bod yn nodi hynny yn lleol.

“Ond mae arwyddocâd eu gweithred yn ymestyn ymhell y tu fas i Lanelli ac mae o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru gyfan. Roedd yr hyn wnaethon nhw, trwy fynnu cael bil yn y Gymraeg ar y dechrau, yna gwrthod talu’r bil pan na ddaeth yn y Gymraeg ac wedyn bodloni derbyn canlyniadau gwrthod talu, yn weithred arwyddocaol iawn yn y frwydr dros yr iaith Gymraeg – a hynny yn y 1950au, cyn bod sôn am ddarlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith.

“Fe wnaeth Saunders Lewis, wrth gwrs, enwi’r teulu yn y ddarlith ddylanwadol honno, gan ddweud eu bod yn esiampl o’r hyn oedd angen i bawb wneud er mwyn diogelu’r iaith.”

Mae cyfraniad Eileen a Trefor Beasley at wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yr ardal eisoes wedi’i nodi ar blac yn neuadd y pentre’ sydd wedi’i hail enwi yn Neuadd y Beasleys.

Dadorchuddio’r plac glas yfory am 11am yn rhif 2 Yr Allt, Llangennech.