Dewi Morris Jones, ar y dde
Mae golygydd a chyn-Bennaeth Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau Dewi Morris Jones o bentref Bronant,  ger Tregaron wedi marw ar ôl salwch byr.

Bu’n gweithio am flynyddoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth fel tiwtor Llydaweg rhan amser yn Adran y Gymraeg.

Yn enedigol o’r Hendygwyn ar Daf, daeth yn rhugl yn y Ffrangeg ac yn y Llydaweg tra oedd yn byw ym Mrest am naw mlynedd.

‘Roedd wedi astudio gwaith y cenhadon a aeth, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o Gymru i Lydaw i geisio troi’r bobl yno yn Brotestaniaid.

Roedd yn un o’r tîm a greodd y Scrabble Cymraeg gyda’r awdur Meinir Pierce Jones ac roedd hefyd yn weithgar iawn gyda Phlaid Cymru yn ei fro.

Roedd yn aelod o Gôr Meibion Caron ac fe gafodd ei dderbyn i’r Orsedd yn 2008.

‘Mawr ei barch’

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd cyn Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Gwerfyl Pierce Jones: “Bu Dewi ar staff y Cyngor Llyfrau am dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n llywio cannoedd lawer o lyfrau drwy’r wasg. Roedd ei graffter a’i fanylder yn eithriadol ac roedd yn fawr ei barch o fewn y diwydiant llyfrau.

“Ond roedd o hefyd yn gydweithiwr ardderchog: yn garedig, yn feddylgar ac yn driw i’r eithaf. Meddai ar synnwyr digrifwch arbennig ac roedd yn annwyl gan bawb yn ddiwahân.  Bydd colled enfawr ar ei ôl.”

Mae’n gadael ei briod Sandra a dwy ferch.