Arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill
Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi dweud wrth Golwg360 fod “arlliw” o’r driniaeth y mae gwadwyr holocost yn ei gael yn y feirniadaeth arno ef a’i debyg am wrthod y consensws ar newid hinsawdd.

Mae’n dweud bod peryg i’r farn gyffredin droi’n debyg i grefydd ac mae wedi galw eto am roi diwedd ar y lefi ar ynni gwyrdd.

Roedd Nathan Gill yn ymateb i feirniadaeth gan ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol tros Frycheiniog a Maesyfed, Roger Williams, yn sgil ei honiadau ar raglen Sunday Supplement y BBC nad bodau dynol sy’n achosi newid hinsawdd.

Y feirniadaeth

Mewn datganiad, dywedodd Roger Williams: “Mae’n syfrdanol clywed bod UKIP yn gwadu fod bodau dynol yn achosi newid yn yr hinsawdd.

“Unwaith eto, mae UKIP yn ceisio mynd â ni tuag yn ôl, yn hytrach nag ymlaen.

“Y cwestiwn yw, faint yn rhagor o wyddoniaeth gadarn sydd ei hangen er mwyn darbwyllo UKIP eu bod nhw’n anghywir?”

‘Gwadwyr holocost’

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd Nathan Gill wrth Golwg360: “Mae’n adlewyrchiad trist o wleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain fod unrhyw un nad yw’n rhannu consensws yn cael ei ddilorni, yn dioddef ymosodiad ac yn cael ei drin fel “gwadwr (gydag arlliw o wadwyr holocost)’.”

“Mae hi’n syfrdanol fod newid yn yr hinsawdd sydd wedi’i achosi gan ddyn rywsut wedi dod yn grefydd, gyda selogion yn ei wthio bob cyfle.”

Yng ngweddill ei ymateb, mae’n cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o “neidio ar gefn bandwagon” ac o “feio dynol ryw am yr holl ddrygioni yn y byd”.

“Dydy hi ddim yn syndod fod llawer o fewn UKIP yn gallu camu’n ôl o’r holl gyffro ac annog y pleidleiswyr i wneud yr un fath.

“Unwaith eto, mae UKIP yn ysgogi’r ddadl tra bod eraill yn dweud ei bod ar ben, ac nad oes angen meddwl na thrafod y mater, dim ond cau eich pen a derbyn yr hyn mae’r sefydliad a’r rhai â buddiant yn ei ddweud wrthych.”

‘Ffolineb’

Ychwanegodd Nathan Gill nad yw e na’r blaid yn honni nad yw’r hinsawdd yn newid.

“Y cyfan ry’n ni’n ei ddweud yw ei fod wedi newid erioed a’i fod am barhau i newid.

“Ffolineb yw’r gred y gallwn ni atal y newid hyn drwy ledaenu sbwriel y ffermydd gwynt aneffeithiol ar draws gefn gwlad.”

Dywedodd fod UKIP yn awyddus i ddiddymu’r dreth werdd sydd wedi taro’r bobol dlotaf yn y gymdeithas, ac wedi “arwain at 40,000 o farwolaethau y gaeaf hwn oherwydd yr oerfel”.

“Mae tlodi tanwydd yn argyfwng go iawn yng ngwledydd Prydain.

“Mae dwy ochr i bob stori bob amser ac yn syml iawn, rydyn ni’n dweud ‘peidiwch â llyncu’r ddadl fod gwyddoniaeth yn bendant pan fo cynifer o wyddonwyr blaenllaw yn codi llais i ddweud nad ydyw’n bendant’.

“Dydy consensws ddim yn golygu ei fod yn ffaith.

“Roedd consensws mai’r Ddaear oedd canol y bydysawd, ond doedd hynny ddim yn golygu ei fod yn wir.”