Bydd ceffyl o Gymru’n rhedeg yn ras geffylau’r Grand National heddiw.

Mae ceffyl Al Co, sy’n 10 mlwydd oed, yn cael ei hyfforddi gan Peter Bowen yn Sir Benfro ac mae ei berchennog yn dod o Fangor-is-y-Coed ger Wrecsam.

Y llynedd, syfrdanodd Al Co y bwcis wrth iddo ennill Grand National yr Alban yn Ayr.

Mae 110 o flynyddoedd wedi bod ers i geffyl sy’n cael ei hyfforddi yng Nghymru ennill y Grand National.

Bydd ras y Grand National yn cael ei chynnal yn Aintree heddiw am 4:15 y prynhawn.