Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi cwyn gan deulu dynes oedrannus a gafodd ddwy strôc tra’n glaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant.

Yn ei adroddiad, dywedodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, bod ’na fethiannau mewn gofal wrth ymateb i’r claf oedrannus.

Dywedodd bod y ddynes 86 oed  wedi cael “gofal annigonol” a bod staff meddygol Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi oedi cyn ymateb i’r claf wedi iddi ddioddef o strôc yn 2012.

Roedd ei mab yn honni na chafodd hi sylw gan feddyg am dros chwe awr wedi’r strôc gyntaf ac yn dilyn hynny fe wnaeth hi ddioddef strôc arall fwy difrifol.

Dywedodd yr Ombwdsmon y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf  dalu £5,500 o iawndal ac ymddiheuro’n ddiamod i deulu’r ddynes, sy’n cael ei chyfeirio ati fel Mrs M. Ychwanegodd bod y bwrdd iechyd wedi methu cydymffurfio gyda chyfarwyddyd trefn cwynion.

Argymhellion

Yn ogystal ag argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro a thalu iawndal i deulu’r ddynes, dywedodd yr Ombwdsmon y dylid cynnal arolwg o’r protocol cyfredol sydd mewn lle i ddelio a chleifion sydd wedi cael strôc.

Fe wnaeth hefyd argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud yn siŵr bod hyfforddiant staff i adnabod arwyddion o strôc yn cael ei adnewyddu o fewn tri mis i gyhoeddi’r adroddiad.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i weithredu ar yr argymhellion.