Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi i ddyn gael ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gar ym Mhen Llŷn neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ychydig cyn 3 y bore ma wedi i’r dyn, sy’n ei ugeiniau, gael ei daro gan gar Rodius lliw arian ger tafarn Bryncynan y tu allan i Nefyn.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod S047839.