Mae beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng y motobeic a char ar y ffordd rhwng Llandrindod a Llanbister ger Llanddewi, toc wedi 11.30yb heddiw. Bu farw’r beiciwr yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw dystion a allai fod â gwybodaeth ynglyn ag amodau’r ddamwain, i gysylltu â nhw ar y rhif ffôn 101.