Trefor ac Eieen Beasley gyda'r teulu
Bydd cyfle i weld y tu mewn i un o gartrefi enwocaf Cymru am y tro cyntaf, pan fydd bwthyn Trefor ac Eileen Beasley yn cael ei agor i’r cyhoedd ar Ebrill 18.

Fel rhan o’r agoriad swyddogol, fe fydd plac ‘Tŷ’r Beasleys’ yn cael ei osod ar adeilad 2, Yr Allt, Llangennech i nodi eu cyfraniad i’r Gymraeg a’u haberth ar hyd y blynyddoedd.

Brwydrodd y Beasleys am wyth mlynedd rhwng 1952 a 1960 am yr hawl i dderbyn ffurflenni Cymraeg gan y Cyngor Sir – a’i holl gynghorwyr hwythau’n Gymry Cymraeg – ac fe gollon nhw dipyn o’u heiddo pan wrthodon nhw dalu eu biliau.

Cafodd ffurflenni uniaith Saesneg eu disodli gan rai dwyieithog yn 1960, ac fe dynnodd Saunders Lewis sylw at frwydr y Beasleys yn ei araith radio ‘Tynged yr Iaith’ ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Cofnododd Angharad Tomos eu hanes yn ei llyfr i blant, ‘Darn Bach o Bapur’, ac mi aeth ati i adrodd yr hanes yn y ddrama ‘Dyled Eileen’, a gafodd ei llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol 2014 wedi taith lwyddiannus y flwyddyn gynt.

Enillodd yr actores Rhian Morgan wobr Beirniaid Theatr Cymru yn 2013 am ei phortread o Eileen Beasley.

Fe fydd eu cartref ar agor i’r cyhoedd chwe niwrnod y flwyddyn.

Dywedodd y perchennog presennol, Mr Hart: “Ro’n i wrth fy modd yn cael gwybod fod gan y tŷ le mor allweddol yn hanes Cymru, ac rwy’n falch y bydd cenhedlaeth newydd yn cael dysgu am y rhan oedd gan y tŷ i’w chwarae wrth adfywio’r Gymraeg.”

Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio gan Faer Llanelli, Roger Price.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n fraint i fi gael gymryd rhan yn y digwyddiad hwn ar ddiwedd fy mlwyddyn yn y swydd.

“Roedd y Beasleys yn arloeswyr yn eu cyfnod, ac fe wnaethon nhw helpu i gynnal yr iaith Gymraeg fel rhan o’n treftadaeth ni yn Llanelli a’r cylch.”

Ar ddiwrnod yr agoriad swyddol, bydd y Maer yn derbyn paentiad gan yr arlunydd lleol, Mel Tonge sydd wedi creu darlun o’r bwthyn fel yr oedd yn y 1950au.