Heddiw, mae’r fenter radio gymunedol, Radio Beca, yn darlledu trwy’r dydd ar y we.

Fe ddechreuodd y rhaglenni am 9 o’r gloch fore heddiw, ac fe fydd y rhaglenni i’w clywed ar-lein tan 3 o’r gloch.

Gorsaf radio newydd ar gyfer gorllewin Cymru ydi Radio Beca, ac fe dderbyniodd drwydded ddarlledu gan gorff Ofcom yn 2012. Y bwriad yw darlledu gwasanaeth radio i siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion.

Fe fydd yr orsaf yn darlledu rhaglenni Cymraeg o amser brecwast hyd at amser te. Gyda’r nos, y bwriad yw darlledu rhaglenni Saesneg (a Pwyleg hefyd, efallai) i helpu pobl ddi-Gymraeg ddysgu’r iaith.

Be’ sy’ mlaen?

Fe ddechreuodd y diwrnod o raglenni byw heddiw gyda thair awr o raglen sgwrsio, Browlan ’da Beca.

Yna, rhwng 12 ac 1, mae DJ y ‘Welsh Whisperer’ yn cael ei raglen ei hun, cyn awr arall rhwng 1 a 2 gyda ‘Mister Jenkins’.

Fe ddaw’r darlledu i ben heddiw gyda ‘Gemau Mawr y Tair Sir’ rhwng 2 a 3 o’r gloch y prynhawn.