Y grwp gwerin o Fethesda, 9Bach, fydd yn agor Castell Aberteifi ar ei newydd wedd yr haf hwn.

Yn rhannu llwyfan a nhw fydd y band Bellowhead, sy’n cael eu cydnabod fel un o fandiau gorau gwledydd Prydain ar hyn o bryd.

Bydd y castell 900 mlwydd oed yn ail-agor ar 25 Gorffennaf ar ol cael ei adnewyddu.

Mae’r prosiect gwerth £12 miliwn – sy’n cynnwys llety gwyliau, bwyty, digwyddiadau awyr agored a gerddi – wedi bod ar y gweill ers 2011.