Roedd Goleuadau’r Gogledd, neu’r aurora borealis, i’w gweld mewn rhannau o Gymru neithiwr.

Roedd cynnydd mewn gweithgarwch solar yn golygu bod pobol ledled y wlad yn medru gweld lliwiau anarferol yn yr awyr.

Mae’r arddangosfa naturiol yn digwydd oherwydd bod gronynnau wedi’u gwefru yn cyrraedd yr atmosffer ac mae’r gweithgarwch solar wedi bod yn gryfach na’r arfer yn ddiweddar.

Roedd adroddiadau bod pobol wedi gweld yr aurora borealis o Lyn y Dywarchen, Betws y Coed; Y Bannu Brycheiniog; Dysynni a Chaernarfon.