Conner Marshall - bu farw ddydd Iau diwetha'
Mae dyn 26 oed wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 18 oed o’r Barri.

Mae David James Braddon o Gaerffili wedi’i gadw yn y ddalfa nes y mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron, Caerdydd, ymhen pythefnos.

Bu farw Conner Marshall, 18, yn yr ysbyty ddydd Iau diwetha’, wedi ymosodiad ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl yn ystod oriau mân dydd Sul, Mawrth 8.