Ras yr Iaith yn Llambed y llynedd
Mae gwyliau cerddorol, clwb ioga a mentrau cymunedol ymhlith y cwmnïau sydd wedi derbyn eu siâr o grant gwerth £4,000 i hybu’r Gymraeg.

Daw’r grantiau fel rhan o Ras yr Iaith a gafodd ei chynnal yn 2014 ymewn ymgais i godi hyder ac arian at y Gymraeg.

Talodd cwmnïau, unigolion a sefydliadau £50 yr un i noddi 1km o’r Ras rhwng Machynlleth ac Aberteifi.

Ardaloedd Machynlleth, Ceredigion ac ochrau Dyffryn Teifi o Sir Gâr a Sir Benfro oedd yn gymwys ar gyfer yr arian grant.

Y derbynwyr

Derbyniodd canolfan y Groes Goch yn Aberteifi a Chanolfan Glyndŵr Machynlleth £750 yr un, sef y swm mwyaf a gafodd ei roi i unrhyw fudiad.

Bydd y Groes Goch yn defnyddio’r arian er mwyn cynhyrchu deunydd Marchnata yn y Gymraeg i hybu’r defnydd o’r iaith, tra bydd Canolfan Glyndŵr yn mynd ati i gynhyrchu sioe a deunydd i ysgolion am hanes Owain Glyndŵr.

Derbyniodd Theatr Troed y Rhiw yn Felin-fach £500 er mwyn cynnal eu gŵyl ddrama gyntaf.

Derbyniodd Ioga i Bawb (Aberystwyth), Cangen Hoelion Wyth Cors Caron, Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion (Llanddewi Brefi), Gŵyl Tregaroc (Tregaron), Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth a Gŵyl Nôl a Mlân (Llangrannog) £300 yr un.

Aeth £200 i Gwmni Cymunedol Cletwr yng ngogledd Ceredigion er mwyn prynu llyfrau Cymraeg ar gyfer eu siop a chaffi cymunedol yn Nhre’r Ddôl.

‘Amrywiaeth a dyfeisgarwch’

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Ras yr Iaith, Siôn Jobbins: “Roeddem ni’n hynod hapus gydag amrywiaeth a dyfeisgarwch y ceisiadau a dderbyniwyd.

“Yr uchafswm oedd ar gael i unrhyw un cais oedd £750.

“Mae rhai ceisiadau wedi derbyn hynny ac eraill wedi derbyn symiau llai.

“Roeddem yn falch i weld bod trawstoriad o ddigwyddiadau, daearyddiaeth ac ymateb i wahanol sectorau o’r gymdeithas.

“Wedi’r holl waith a hwyl wrth redeg i godi arian i’r Ras, rwy’n siŵr y bydd y rhedwyr a’r noddwyr yn falch iawn gyda’r ymateb a’r syniadau ar sut i wario’r arian grant.”