Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu dyled o £300,000 gan elusen leiafrifoedd ethnig AWEMA yn “flêr ac yn dangos na ellir ymddiried yn y blaid Lafur”, yn ôl y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Fe ddaeth elusen AWEMA, oedd yn gweithredu tros wella’r cysylltiad rhwng cymunedau ethnig Cymru, i ben ym mis Chwefror 2012 ar ôl methu a sicrhau cyllid cyhoeddus yn dilyn honiadau o dwyll ariannol .

Cyhoeddwyd y bore yma y bydd y ddyled yn cael ei dileu er mwyn arbed ffioedd proffesiynol, ac fe wnaeth Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru Syr Derek Jones gydnabod ei fod yn “golled sylweddol i’r pwrs cyhoeddus”.

Er hyn, fe ddywedodd bod y Llywodraeth wedi dysgu gwersi at y dyfodol.

‘Di-hid’

“Gydag agwedd mor flêr tuag at arian y trethdalwyr, mae’n amlwg na ellir ymddiried yn y blaid,” meddai Mohammad Asghar, AC ar ran y Ceidwadwyr yng Nghymru.

“Mae’n drist ond nid yw’n syndod bod swm mor fawr wedi cael ei ddileu heb ddim ymddiheuriad gan weinidogion Llafur am wario arian mor ddi-hid yn y lle cyntaf.

“Am 16 mlynedd, mae’r llywodraeth Lafur yma wedi bod yn ddim mwy nag asiantaeth wario, yn taflu arian pan mae o ar gael ond yn cwyno pan mae arian yn dynn.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.