Mae llefarydd addysg Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi ffydd mewn athrawon ar ôl i adroddiad gael ei ryddhau heddiw yn beirniadu’r hyfforddiant sy’n cael ei roi iddyn nhw.

Fe ddywedodd yr Athro John Furlong, oedd wedi cael ei gomisiynu gan y llywodraeth i wneud yr ymchwil, fod angen gweithredu i wella’r hyfforddiant i weithwyr addysg gan fod y safon wedi dirywio ers 2006.

Mewn ymateb fe ddywedodd yr AC Simon Thomas ei fod yn croesawu adolygiad yr Athro Furlong ond y byddai Plaid Cymru yn “ymddiried mewn athrawon ac yn eu rhyddhau o fiwrocratiaeth” pe bai’r blaid mewn grym:

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser am fuddsoddi mewn hyfforddi athrawon  – mae addysg gychwynnol a Datblygu Proffesiynol Parhaus yn hanfodol oherwydd mai athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno polisïau addysg yn y dosbarth,” meddai.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb a gweithredu i wella hyfforddiant athrawon. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor arbenigol ar nifer o faterion, ond hyd yma, nid ydynt wedi cyflawni ar gynlluniau i wella ein system addysg yng Nghymru.”

Daw adroddiad Furlong ar ôl i gynigion gan yr Athro Donaldson am Gwricwlwm Cenedlaethol newydd gael eu cyhoeddi:

“Os yw cynigion Donaldson am Gwricwlwm Cenedlaethol newydd i’w gweithredu, athrawon fydd yn gyfrifol am arwain y newidiadau hynny, a bydd angen i addysg athrawon baratoi athrawon ar gyfer hyn,” meddai Simon Thomas.

Argymhellion

Ymysg argymhellion yr Athro Furlong mae:

  • Ystyried cwtogi ar nifer y prifysgolion sy’n ddarparwyr addysg athrawon a achredwyd; ymysg y posibiliadau mae tair prifysgol ranbarthol neu un ganolfan brifysgol;
  • Adolygu’r broses o achredu darparwyr addysg gychwynnol athrawon gan roi cyfrifoldeb arweiniol i agweddau allweddol o raglenni AGA allweddol;
  • Sefydlu ‘Bwrdd Achredu Addysg Athrawon’ yng Nghyngor y Gweithlu Addysg i Gymru;
  • Ymestyn y radd i  bedair blynedd gyda 50% o amser myfyrwyr yn cael ei dreulio yn adrannau eu prif bynciau;
  • Adolygu ‘Canllawiau Arolygu’ Estyn’ i ysgolion i gynnwys cydnabod yn benodol gyfraniad ysgol i addysg gychwynnol athrawon;
  • Llywodraeth Cymru i gadw llygad barcud ar effaith cymhellion ariannol ar recriwtio, yn enwedig gwahanol lefelau cyllido o gymharu â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr;
  • Adeiladu rhwydwaith o bum canolfan rhagoriaeth addysgol ar hyd a lled Cymru sy’n gysylltiedig â phynciau a welir fel rhai hanfodol i Gymru – er enghraifft, mewn dysgu cyfrwng Cymraeg, mathemateg, dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, a dysgu plant dan anfantais gymdeithasol.