Madeleine Moon AS
Mae corff sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Prydain wedi gwrthod cais am gytundeb gan gwmni o Gymru am ei fod yn credu ei bod yn wlad dramor.

Wrth godi’r mater yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ofynnodd Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr, Madeleine Moon, i arweinydd y Tŷ, William Hague, am esboniad swyddogol o ystyr y gair ‘tramor’.

Ychwanegodd bod rheswm y Ganolfan Gwybodaeth Gofal Iechyd a Diogelwch dros wrthod cais cwmni CGI, sydd gwmni o Ganada ond â’i swyddfa ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, yn “wallgof”.

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Williams Hague: “Ar ôl prynu tŷ yng Nghymru yn ddiweddar, fe alla i gadarnhau nad yw Cymru yn wlad dramor.

“Ac fe allwch chi gymryd hynny fel datganiad swyddogol ar ran y Llywodraeth yn ogystal ag yn un personol, nad yw Cymru yn wlad dramor.”

“Rwy’n credu y byddai’n well i chi fynd a’r mater yn syth at weinidogion iechyd ac mi dd’weda i wrthyn nhw eich bod chi wedi ei godi.

Pellter

Meddai Madeleine Moon: “Mae’r cwmni wedi gwrthod cais CGI ar sail y rhesymeg wallgof bod Cymru’n wlad dramor. Mae’r afon Hafren yn llydan, ond ddim mor llydan â hynny.”