David Cameron
Fe fydd David Cameron a Nick Clegg yng Nghymru heddiw i gyhoeddi pa bwerau ychwanegol fydd yn cael eu datganoli i’r Cynulliad.

Y disgwyl yw y bydd y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn addo y bydd Cymru’n cael y grym i benderfynu ar brosiectau ynni mawr, ffracio a threfniadau etholiadau – gan gynnwys pleidleisiau i bobol ifanc 16 oed.

Yn ôl David Cameron, mae eisiau gweld “mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn nes at y bobol” ac mae’r cyhoeddiad yn ganlyniad i ymgais Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, i gael cytundeb rhwng y pleidiau ar y pwnc.

Llai na Silk

Ond fe fydd y cynigion yn llai nag oedd wedi ei argymell gan ail ran Comisiwn Silk ac yn llawer llai na’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban.

Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi dweud fod diffygion y cytundeb yn dangos agwedd lugoer y Ceidwadwyr at ddatganoli i Gymru.

Ond roedd Llafur a rhai o fewn y Blaid Geidwadol wedi atal Ysgrifennydd Cymru rhag mynd ymhellach, meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Isafswm arian

Mae awgrym y bydd cyhoeddiad ar yr arian sy’n dod i Gymru, gan gynnwys gosod isafswm a fyddai’n gwarantu na fyddai ei chyllid byth yn disgyn o dan lefel benodol o’i gymharu â rhannau eraill y Deyrnas Unedig.

Ond fe allai hynny ddibynnu ar barodrwydd y Cynulliad i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am dreth incwm.

Mae aros i weld a fydd addewid o newid i’r model datganoli ei hun – o nodi pa bwerau sydd wedi eu datganoli i restru’r pwerau sy’n aros yn Llundain.

Ond mae ffynonellau yn y Bae wedi dweud na fydd ‘Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi’ yn cynnwys datganoli pwerau dros yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid na chwaith tros amodau a chyflogau athrawon.

‘Setliad parhaol’

Datganoli “gyda phwrpas” yw hyn, meddai David Cameron a fydd yn annerch cynhadledd ei blaid yng Nghymru.

Gan siarad cyn y cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weinidog: “Dyma’r cam diweddaraf i ddarganfod setliad parhaol ar draws y wlad i wneud ein Teyrnas Unedig yn gryfach ac yn decach. R’yn ni’n delifro ar ddatganoli ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“R’yn ni eisiau delifro pwerau newydd i Gymru fel bod mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn nes at y bobol ac i roi mwy o gyfrifoldeb i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r rheiny sy’n gwario arian trethdalwyr  fod yn fwy cyfrifol am ei wario. Dyma ddatganoli gyda phwrpas, gan weithio i Gymru.”

Llafur yn beirniadu

Ond mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu’r cytundeb hyd yn oed cyn ei gyhoeddi.

Er eu bod yn croesawu unrhyw gam ymlaen, medden nhw, roedd y broses yn dangos diffyg diddordeb y Ceidwadwyr yng Nghymru.

“Does dim cydraddoldeb gyda’r Alban a bydd pobol, yn ddigon teg, yn gofyn pam hynny. Maen nhw wedi torri £1.5 biliwn o’n cyllideb ac wedi aros tan ddyddiau ola’r senedd yma cyn dechrau siarad am arian teg i Gymru.”’

‘Grym go iawn’

Fe fydd hyn yn rhoi pŵer “go iawn” i Gymru, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg: “Dw i wedi bod yn curo’r drwm am flynyddoedd nawr am fwy o ddatganoli i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae rhoi pŵer go iawn yn nwylo pobol Cymru yn rhan allweddol o greu economi gryfach mewn cymdeithas decach i bawb.”

Dyma “becyn cryf” a fydd yn creu sylfeini ar gyfer setliad datganoli cryfach, parhaol i Gymru, meddai Stephen Crabb.

“Mae’r pwerau newydd yma’n creu cyfle pwysig i Gymru, maen nhw’n bwerau gyda phwrpas. Fel Llywodraeth y DU, r’yn ni’n credu mewn ail-gydbwyso’r economi i alluogi cyfoeth i gael ei greu yn fwy teg a chyfartal yn y wlad gyfan.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru: “Mae’r pecyn Dydd Gŵyl Dewi hwn yn darparu’r teclynnau i helpu gryfhau’r economi yma yng Nghymru hefyd.”