DNA
Mae nifer o arbenigwyr ym maes geneteg wedi codi amheuon a phryderon ynghylch rhaglen ar S4C sy’n annog pobol i brynu profion llinach genetig er mwyn darganfod “pwy yw’r Cymry”.

Bydd y rhaglen gyntaf mewn cyfres am brosiect CymruDNAWales yn cael ei darlledu nos Sul, ac fe fydd blog yn cael ei gyhoeddi heno yn ystod #yagym yn trafod cynnwys y rhaglen a’r wyddoniaeth y tu ôl iddi.

Ar flog syndod fe fydd erthygl yn craffu ar y cynllun, ynghyd â pherthynas S4C â’r cwmni preifat sy’n gwerthu’r profion DNA, The Moffat Partnership.

I gyd-fynd â darlledu’r rhaglen, fe fydd yr elusen ‘Sense About Science’ yn cyhoeddi fersiwn Gymraeg newydd o’u canllaw ‘Synnwyr am Brofion Llinach Genetig’.

Mae’r blog yn rhybuddio nad prosiect ymchwil gwyddonol yw CymruDNAWales ond yn hytrach, prosiect gan gwmni masnachol sy’n gwerthu profion DNA am elw.

Yn ôl un arbenigwr, yr Athro Mark Thomas o brifysgol UCL yn Llundain, dydy’r prosiect “fawr gwell na sêr-ddewiniaeth enetig” sydd â “bron dim sylwedd gwyddonol”.

Dywed ‘Sense About Science fod “holl gysyniad profion llinach genetig i unigolion yn ddiffygiol”.

Yn ôl y blog, roedd S4C yn ymwybodol o amheuon a phryderon gwyddonwyr am y profion DNA cyn iddyn nhw fynd ati i gomisiynu’r rhaglen, ond does dim sôn am hynny yn y rhaglen.

Mae’r blog yn nodi hefyd nad yw hi’n glir os oedd S4C wedi sicrhau bod canlyniadau prosiect CymruDNAWales wedi cael eu dilysu gan arbenigwyr cyn iddyn nhw ddarlledu’r rhaglen.

‘Prosiect uchelgeisiol’ – S4C

Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C: “Mae Cymru DNA Wales yn brosiect uchelgeisiol sy’n ymgais i edrych ar hanes y Cymry o’r newydd, yn defnyddio technoleg wyddonol a samplau DNA.

“Mae’r dulliau gwyddonol sy’n cael eu defnyddio’n dechnoleg gyffredin, ‘prif-ffrwd’ sy’n cael ei derbyn gan y mwyafrif o arbenigwyr yn y maes, ac sydd wedi bod yn sail i lawer o brosiectau tebyg yn y gorffennol, gan gynnwys rhai i ddarlledwyr eraill.

“Mae prif wyddonydd y cynllun, Dr Jim Wilson yn uchel iawn ei barch yn y maes ac yn awdur papurau niferus sydd wedi’u cyhoeddi am DNA hynafiadol.  Yn benodol mae’n defnyddio techneg o’r enw ‘Phylogeography’ sy’n cael ei defnyddio gan nifer o academyddion prifysgol a gan bron pob cwmni profi DNA.”

‘Ymgynghori’n eang’

Ychwanegodd: “Mae trafodaeth iach yn parhau ymhlith academyddion a sylwebyddion, a gwahanol safbwyntiau ynghylch elfennau o’r technegau. Tra bo llawer o arbenigwyr yn gefnogol o’r dechneg, mae eraill yn dadlau yn erbyn, ac mi fyddwn yn ymweld â’r ddadl hon yn ystod y gyfres DNA Cymru.

“Gydol y prosiect rydym yn ymgynghori’n eang ag academyddion ac arbenigwyr mewn hanes, archaeoleg a’r biowyddorau, mewn nifer o sefydliadau uchel eu parch ar draws y Deyrnas Unedig.  Bwriad y prosiect, oedd wedi’i chomisiynu yn unol â’n prosesau arferol, yw creu golwg newydd ar hen hanes y Cymry, a gofyn o le y daeth pobl Cymru’n wreiddiol.  Mi fydd cyfres DNA Cymru yn cymryd gofal i egluro lle mae’r dehongliad yn ansicr neu’n ddamcaniaethol.

“Mae hyn yn wir am raglen gynta’r gyfres ar nos Sul 1 Mawrth, pan fydd sylfaen prosiect DNA Cymru yn cael ei osod – y cefndir hanesyddol a’r ymchwil wyddonol – ac rydym yn annog gwylwyr i wylio’r rhaglen cyn dod i gasgliad eu hunain.  Yn y rhaglen hon byddwn yn datgelu gwreiddiau pedwar wyneb cyfarwydd: Bryn Terfel, Gareth Edwards, Dafydd Iwan a Siân Lloyd.”