Mae methiant Llywodraeth Prydain i ailgydbwyso’r economi yn dangos nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards.

Yn ôl Jonathan Edwards, mae ffigurau newydd gan Ganolfan Gwybodaeth Senedd yr Alban yn profi fod Llywodraeth Prydain “wedi gwneud prin ddim i wella’r economi Gymreig” ers cwymp ariannol 2008.

Mae data hefyd yn dangos bod cyfran Cymru o GVA y Deyrnas Gyfunol yn 3.5% – sydd ond yn 0.1% yn uwch na ffigwr 2008.

Dim ond trwy roi pwerau creu swyddi i Gymru y bydd y sefyllfa’n gwella, yn ôl Jonathan Edwards.

Ac fe alwodd am greu mesur Tegwch Economaidd a fyddai’n blaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer buddsoddiad er mwyn ailgydbwyso’r economi ar lefel unigol a rhanbarthol.

‘Adlewyrchiad damniol o fethiant’

Mewn datganiad, dywedodd Jonathan Edwards: “Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchiad damniol o fethiant llywodraeth San Steffan i ailgydbwyso’r economi dros y pum mlynedd diwethaf.

“Tra bo Llundain a’r De Ddwyrain wedi sugno cyfoeth a buddsoddiad o weddill y Wladwriaeth Brydeinig gan fwynhau twf o 2.9% rhyngddynt yn eu cyfran o GVA y DG, mae cyfran Cymru wedi tyfu o 0.1% tila.

“Dyma arwydd clir nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru a pham fod Plaid Cymru wedi bod yn dadlau’r achos dros ailgydbwyso cyfoeth a grym ledled Prydain ar sail unigol a daearyddol.

“Mae rheolaeth economaidd uniongyrchol o San Steffan wedi methu, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael pwerau creu-swyddi llawer mwy cynhwysfawr na’r han a gynigwyd i Gymru yn y Ddeddf Cymru ddiwethaf.

“Mae Gogledd Iwerddon yn cael pwerau treth gorfforaethol llawn a’r Alban yn cael pwerau treth incwm llawn ond eto mae pleidiau San Steffan yn gwrthod grymuso Cymru gydag unrhyw bwerau creu-swyddi ystyrlon.”