Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar a gafodd eu cynnal yn Aberystwyth neithiwr.

Cyn-ganwr Frizbee Yws Gwynedd ddaeth i’r brig yng nghategori’r Artist Unigol Gorau, ac fe gipiodd wobrau am y trac ‘Neb ar Ôl’ a’r Record Hir Orau am yr albym ‘Codi/Cysgu’.

Roedd dwy wobr i’r band Sŵnami, sef y Record Fer Orau am eu sengl ddwbl ‘Cynnydd/Gwenwyn’, a’r Fideo Gorau am ‘Gwenwyn’ (Storm + Shelter).

Un o berfformwyr y noson oedd Candelas, a gipiodd wobrau am y Gwaith Celf Gorau a’r Band Gorau.

Dywedodd Uwch Olygydd y Selar, Owain Schiavone: “A hithau’n drydedd flwyddyn i ni gynnal Gwobrau’r Selar fel digwyddiad byw, does dim amheuaeth ei fod wedi cydio yn nychymyg pobl, a bod yr artistiaid a’r gynulleidfa’n gweld hwn fel un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn.

“Mae’r ffaith mai’r gynulleidfa sy’n dewis yr enillwyr yn y bleidlais gyhoeddus yn golygu bod ganddyn nhw berchnogaeth dros yr holl beth a dwi’n credu bod hynny’n ffactor amlwg yn llwyddiant y digwyddiad.

“Unwaith eto eleni roedd nifer o fysus yn llawn o bobl yn teithio i Aber, ac mae’n arwydd da iawn bod  criwiau o bobl ifanc yn fodlon teithio o Ynys Môn, Caerdydd, Sir Benfro a thu hwnt er mwyn dod i ddigwyddiad fel hwn.

“Mae’n awgrymu bod y sin yn rywbeth cyffrous ar hyn o bryd, ac mae hynny’n gadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol.”

Dyma’r enillwyr yn llawn:

Record Fer Orau – Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami

Cân Orau – Neb ar Ôl – Yws Gwynedd

Gwaith Celf Gorau – Bodoli’n Ddistaw – Candelas

Hyrwyddwyr Gorau – 4 a 6

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau – Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau – Yws Gwynedd

Digwyddiad Byw Gorau – Maes B, Eisteddfod Llanelli

Fideo Cerddoriaeth Gorau – Gwenwyn – Sŵnami

Record Hir Orau – Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd

Band neu Artist Newydd Gorau – Ysgol Sul

Band Gorau – Candelas

Offerynnwr Gorau – Lewis Williams (Sŵnami / Candelas)