Mae swyddogion heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i fusnesau yng Ngwent i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddau beiriant rhoi arian, neu ATM, gael eu dwyn.

Cafodd y cyntaf ei ddwyn o Swyddfa’r Post yn Llanfach yng Nghasnewydd ar 5 Chwefror. Roedd pedwar person wedi torri mewn i’r adeilad ac wedi defnyddio rhaff a thryc i gludo’r peiriant o’r safle.

O garej Tesco ar yr A465 yn Nhredegar y cafodd yr ail beiriant ei ddwyn. Roedd dau ddyn mewn car Mercedes arian wedi ei gludo i ffwrdd ar 13 Chwefror am tua 3:25 y bore.

“Mi fuaswn yn hoffi atgoffa cwmnïau yn yr ardal i wneud yn siŵr fod unrhyw beiriant rhoi arian sydd ganddyn nhw yn cael eu cadw mor ddiogel ag sy’n bosib,” meddai’r Arolygydd Ian Bartholomew.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.