William Hague
Fe wnaeth William Hague ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn Sir Drefaldwyn ers iddo symud i’r ardal heddiw.

Yn ddiweddar, symudodd William Hague a’i wraig Ffion i blasty Cyfronnydd ger y Trallwng. Roedd yr eiddo wedi cael ei hysbysebu ar werth am £2.5 miliwn.

Yn ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn yr ardal, fe wnaeth William Hague gwrdd ag undebau amaeth yn y Trallwng cyn iddo draddodi darlith ar ei fywyd mewn gwleidyddiaeth o flaen 200 o bobl leol yn neuadd y dref.

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Glyn Davies, yr Aelod Seneddol Ceidwadol lleol, ei fod wrth ei fodd bod y trigolion lleol wedi rhoi croeso iddo.

Meddai: “Roedd hi’n wych i allu croesawu William Hague i Sir Drefaldwyn yn gyhoeddus ac roeddwn wrth fy modd ei fod wedi cael croeso cynnes gan drigolion Sir Drefaldwyn.

“Rwyf wedi adnabod William ers 20 mlynedd ac rwy wastad yn mwynhau ei glywed yn siarad. Un o’r heriau mwyaf sy’n fy wynebu i fel gwleidydd yw cysylltu â phobl sydd wedi eu dadrithio â gwleidyddiaeth.

“Rwyf am ennyn diddordeb pobl ifanc yn nyfodol eu byd, a gwn nad oes unrhyw un yn well na William Hague am ymgysylltu â phobl.”