Cafodd pedwar dyn eu hachub oddi ar gwch pysgota ger Ynys Enlli ym mhen Llŷn neithiwr.

Cafodd hofrennydd y llu awyr ei alw toc cyn hanner nos neithiwr a credir bod y gwch wedi mynd i drafferthion mewn moroedd garw.

Cafodd y dynion ei cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond does dim adroddiadau fod neb wedi eu hanafu.