Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhywiol difrifol ar ddynes 19 oed ger Caerdydd nos Lun.

Digwyddodd yr ymosodiad ar gaeau Llanrhymni rhwng 11.15yh a 11.30yh.

Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, a’u bod nhw’n cynyddu nifer y plismyn yn yr ardal yn sgil y digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.