Un o brif wendidau ffigurau’r Cyfrifiad fel maen prawf o sefylla’r Gymraeg yw nad oes ynddyn nhw unrhyw wybodaeth am y defnydd a wneir o’r iaith.

Mae Arolwg Defnydd Iaith Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru felly’n rhoi gwybodaeth fuddiol ychwanegol at ystadegau’r Cyfrifiad. Gan ei fod yn dilyn ymchwil tebyg rhwng 2004 a 2006 mae iddo hefyd y potensial o ddangos unrhyw dueddiadau a allai fod ar waith.

Canlyniadau rhan gyntaf yr arolwg sydd wedi’i gyhoeddi, ac ystadegau ar gyfer Cymru gyfan yn unig sydd ynddo ar hyn o bryd – rhywbeth sy’n cyfyngu ar ei werth. Gobeithio y bydd gwybodaeth sy’n dangos y gwahaniaethau o fewn Cymru yn yr ail adroddiad sydd i fod i gael ei gyhoeddi cyn diwedd eleni.

Prif ganfyddiadau

Gan mai arolwg ar sail sampl yw hwn, mae’r wybodaeth wedi ei chyflwyno fel canrannau yn bennaf, er bod y rhain wedi eu defnyddio i greu amcangyfrifon o niferoedd hefyd weithiau.

Yr hyn y mae’n ei ddangos yn sylfaenol ydi bod mwy o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg nag mae’r Cyfrifiad yn ei awgrymu, ond mai llawer llai sy’n siarad yr iaith yn rhugl.

Tra bod y Cyfrifiad yn dangos dros hanner miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg, neu 19% o boblogaeth Cymru, dim ond 310,600 – 11% o’r boblogaeth – sy’n gallu ei siarad yn rhugl, yn ôl yr arolwg diweddaraf.

Er bod hyn yn cymharu â 317,300 yn 2004-06, nid yw’r gostyngiad “i raddau arwyddocaol yn ystadegol” yn ôl yr arolwg. Hyd yn oed a derbyn bod gostyngiad, mae’n ostyngiad llawer llai na’r 20,000 o ostyngiad yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiadau 2001 a 2011.

Iaith plant

Mae’r gwahaniaeth rhwng ffigurau’r arolwg a’r Cyfrifiad yn fwyaf amlwg ymysg plant 3-15 oed. Yn ôl yr arolwg, 15% o blant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, o gymharu â 37.6% sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad.

Mae’n awgrymu’n gryf fod angen cymryd pinsiad da o halen cyn rhoi gormod o bwys ar ffigurau’r Cyfrifiad ar faint o blant sy’n siarad Cymraeg.

Ffigur na ellir ei anwybyddu chwaith yw’r gostyngiad yn y nifer o blant sy’n rhugl o gymharu’r adroddiad hwn â’i ragflaenydd – o 71,200 yn 2004-06 i 60,800 yn 2013-14. Mae’n debyg y gellir priodoli llawer o hyn i’r ffaith fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn niferoedd y plant yn y boblogaeth yn gyffredinol, gan fod y cwymp cyfatebol yn y ganran yn llai – o 16% i 15%.

Ar y llaw arall mae’r ganran o blant sy’n siarad Cymraeg ond heb fod yn rhugl wedi codi o 18% i 27% dros yr un cyfnod. Mae tueddiad tebyg ar raddfa lai i’w weld mewn grwpiau oedran eraill hefyd.

Canlyniad anochel hyn, fel mae’r adroddiad yn ei ddangos, yw bod y siaradwyr rhugl yn ffurfio canran is o’r cyfanswm sy’n siarad Cymraeg.

Un feirniadaeth y gellir ei wneud o’r adroddiad yw’r tueddiad ynddo ar brydiau i foddi’r darllenydd â phentyrrau o ganrannau y naill ar ôl y llall. Canlyniad hyn weithiau yw arwain at ddryswch ynghylch union arwyddocâd a pherthnasedd y canrannau hynny.

Pa mor aml maen nhw’n siarad Cymraeg?

Cafodd cyfres o gwestiynau eu gofyn i’r rhai a gymerodd ran ynghylch pa mor aml y maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg.

Mae’n wir fod cwestiynau o’r fath mewn arolygon fel hyn yn ymddangos yn arwynebol ar yr olwg gyntaf, ond gan fod llawer o’r rhain yn union yr un fath i’r hyn a gafodd ei holi yn 2004-06 mae modd gwneud cymariaethau uniongyrchol.

Er bod yr adroddiad yn dweud bod y gwahaniaethau bach yn annhebygol o fod yn arwyddocaol – yn ystadegol a fel arall – mae ambell i wahaniaeth sy’n ymddangos yn fwy sylweddol.

  • Mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl sydd ‘bob amser yn siarad Cymraeg gartref’ wedi gostwng o 150,00 i 136,000. Mae hyn bron i 10% o leihad. Mae lleihad bychan hefyd yn y niferoedd sy’n dweud eu bod ‘bob amser yn siarad Cymraeg gyda ffrindiau’ ac yn y rhai a gafodd eu ‘sgwrs fwyaf diweddar yn Gymraeg’.
  • Ar y llaw arall, mae cynnydd bychan yn y nifer sy’n dweud eu bod ‘yn siarad Cymraeg bob dydd’ ac sy’n dweud eu bod ‘yn ysgrifennu Cymraeg yn dda iawn’.
  • Dadlennol yw gweld bod 22,000 yn fwy o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi cael eu haddysg gynradd yn y Gymraeg a 33,000 yn fwy wedi cael eu haddysg uwchradd yn y Gymraeg. A fyddai rhywun wedi disgwyl i gynnydd o’r fath gael ei adlewyrchu mewn cynnydd yng nghyfansymiau’r rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg? Neu a yw’r niferoedd hyn yn ffactor allweddol mewn cadw’r niferoedd rhag gostwng yn sylweddol?

Un o’r pryderon, sydd eisoes wedi cael sylw yn y wasg, yw’r canrannau bach o siaradwyr rhugl sy’n defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol newydd. Mae hwn yn faes sy’n sicr yn gofyn am weithredu pellach ac ar frys.

Yr iaith yn dal ei thir?

Wrth geisio pwyso a mesur yr holl wybodaeth at ei gilydd, mae’n debyg mai’r casgliad synhwyrol i ddod iddo yw nad oes tystiolaeth o newid mawr wedi bod yn sefyllfa’r Gymraeg dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mewn geiriau eraill, rhyw ddal ei thir y mae’r iaith ar y gorau, ac nid oes sail i’r heip a gawn o bryd i’w gilydd am gynnydd.

Ar y llaw arall, os yw’r ymdrechion dros y Gymraeg yn helpu ei galluogi i ddal i thir, rhaid edrych ar hynny fel rhyw fath o lwyddiant ynddo’i hun.

Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos hefyd nad oedd sail chwaith i’r panig anwybodus a ddangoswyd gan rai wrth ymateb i ffigurau Cyfrifiad 2011 ddwy flynedd yn ôl.

Yr angen am ffigurau rhanbarthol

Gwendid mwyaf yr adroddiad fel y mae ar hyn o bryd yw nad oes wybodaeth am y sefyllfa mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.

Mae hyn yn holl bwysig er mwyn cael darlun llawnach a mwy ystyrlon.

Gan fod cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol ardaloedd a’i gilydd, rhyw gyfartaledd digon diystyr yw unrhyw ffigurau iaith am Gymru gyfan. Nid yw ffigurau o’r fath yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ar lawr gwlad mewn unrhyw ardal yng Nghymru.

Gan dderbyn bod meintiau samplau’n cyfyngu ar y graddau y gellir rhanbartholi gwybodaeth, does ond gobeithio y bydd yr ail adroddiad yn cynnwys dimensiwn daearyddol yn ogystal.

Byddai gwybodaeth fesul sir yn gam ymlaen, ond gan fod gwahaniaethau sylweddol o fewn rhai siroedd yn ogystal, mwy gwerthfawr fyddai gwybodaeth yn ôl rhanbarthau sy’n adlewyrchu’r gwahaniaethau ieithyddol o fewn Cymru.

Byddai hynny’n ein galluogi ni i weld pa gydberthynas sydd yna rhwng canrannau sy’n medru’r Gymraeg a pha mor aml y mae’n cael ei siarad.

Arolwg Defnydd Iaith Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru