Cwmni Theatr Bara Caws
Y ddrama ‘Garw’ gan gwmni Bara Caws oedd un o brif enillwyr Gwobrau Theatr Cymru, a gafodd eu cynnal yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd neithiwr.
Roedd pedair gwobr i’r ddrama sy’n adrodd hanes cyn-löwr a chyn-focsiwr o Ddyffryn Aman mewn cymdeithas oedd yn prysur newid yn y 1980au.
Mae’r ddrama’n cael ei disgrifio fel “drama heriol am bobol a’u brwydrau mewn cyfnod o newid ysgytwol yn hanes diweddar Cymru”.
Cafodd ‘Garw’ ei enwi’n Gynhyrchiad Gorau yn y Gymraeg, ac roedd gwobr i’r dramodydd Siôn Eirian am y gwaith.
Roedd gwobr yr un i’r prif actorion, wrth i Rhys Parry Jones ennill y wobr am yr Actor Gorau, ac Eiry Thomas gafodd ei henwi’n Actores Orau.
Gwobrau Saesneg
Daniel Llewelyn-Williams gipiodd y wobr am yr Actor Gorau yn Saesneg am ei berfformiad yn ‘Not About Heroes’ (Theatr Clwyd).
Sara Lloyd-Gregory gafodd ei henwi’n Actores Orau yn Saesneg am ei pherfformiad hithau yn ‘Contractions’.
‘Hiraeth’ gan Buddug James Jones gafodd ei enwi’n Gynhyrchiad Gorau yn Saesneg, a Matthew Bulgo gipiodd y wobr am y Cynhyrchydd Gorau am y ddrama ‘Last Christmas’.
Yn ogystal, roedd pedair gwobr i Opera Cenedlaethol Cymru ar y noson.