Abertawe
Mae dros 500 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi stop ar gynlluniau sy’n caniatáu i bobol o du allan i Gymru gael tai cymdeithasol cyn y bobol leol – ond mae’r Llywodraeth yn gwadu bod ffafriaeth yn bodoli.

Yn ôl Plaid Glyndŵr sydd y tu ôl i’r ddeiseb ar-lein, mae cynghorau mewn ardaloedd poblog o Loegr, yn benodol yn Llundain, yn rhoi cymorth i bobol fregus symud i ffwrdd o’r ardaloedd hynny ac adleoli mewn cymunedau fel Abertawe, Cydweli neu Bwllheli.

“Mae’r bobol hyn, sy’n cael eu hystyried i fod yn fregus, fel arfer yn ddi-waith, yn sâl ac yn straen ar yr ardal y maen nhw’n byw ynddo o ran adnoddau,” meddai Dennis Morris o Blaid Glyndŵr.

“Rwy’n adnabod llawer o bobol leol fyddai’n falch iawn o gael tai ond yn methu gan fod pobol o du allan i Gymru yn cael blaenoriaeth.

“Mae ganddom ni ddigon broblemau yma yng Nghymru heb son am orfod gofalu am bobol sy’n agored i niwed.”

Mae’r blaid yn bwriadu cyflwyno’r ddeiseb i’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Effaith ar yr iaith

Mae Llywodraeth Cymru yn wfftio’r honiad bod tai cymdeithasol yn cael eu rhoi i bobol o Loegr ar draul y Cymry.

“Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiadau hyn,” meddai llefarydd.

“Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am benderfynu ar eu meini prawf eu hunain ar gyfer dyraniadau tai cymdeithasol – mae hyn yn cynnwys y gallu i roi blaenoriaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol.”

Ond mae rhai o lofnodwyr y ddeiseb yn mynnu bod hyn yn digwydd yn eu cymunedau a bod effaith niweidiol ar hunaniaith, patrymau pleidleisio a’r iaith.