Dr Dai Lloyd
Mae’n “warth” na chaiff pobol Cymru wneud penderfyniadau ynghylch ffracio, yn ôl Dr Dai Lloyd.

Mae darpar ymgeisydd cynulliad Plaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe wedi galw ar aelodau seneddol Cymru i gefnogi hawl y Cymry i benderfynu a ddylid caniatâu cynlluniau ffracio.

Erbyn hyn, mae gan drigolion Yr Alban yr hawl i benderfynu ynghylch ffracio ac mae Dr Dai Lloyd am weld yr hawl yn cael ei ymestyn i Gymru.

Bydd Plaid Cymru’n cyflwyno gwelliant i’r Mesur Isadeiledd yn San Steffan ddydd Llun.

‘Cenedl eilradd’

“Felly paham gwahaniaethu yn erbyn Cymru – unwaith yn rhagor – a’n trin fel cenedl eilradd?

“Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi moratoriwm ar ffracio i adlewyrchu ei effeithiau ar newid hinsawdd, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, a’r economi.”