Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod mwy o bobl ifanc Cymru mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, wedi croesawu’r ffigurau.

Mae’r ffigurau yn amcangyfrif bod 8.3% o bobl ifanc 16-18 oed oedd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2014, o’i gymharu ag 11.9% yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Meddai’r llywodraeth fod hyn yn ostyngiad o 3,800.

Yn ystod yr un cyfnod, amcangyfrifwyd bod yna 19.7% o bobl ifanc 19-24 oed oedd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, o gymharu â 21.4% (51,300) yn ystod y flwyddyn flaenorol.

‘Gweithlu cryfach’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Julie James: “Lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yw un o brif dargedau Llywodraeth Cymru.

“Mae ffigurau heddiw yn dangos ein bod yn gweithredu dros bobl Cymru, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd anodd.

“Drwy gydweithio i wella rhifedd a llythrennedd yn ein hysgolion, cefnogi ein pobl ifanc wrth iddynt ddilyn hyfforddiant neu addysg bellach a symud i mewn i fyd gwaith, rydyn ni’n cynnig cymorth i unigolion, ond rydyn ni hefyd yn creu gweithlu cryfach, mwy cadarn.”