Ty Dylan Thomas yn Nhalacharn
Mae brwydr yn yr Uchel Lys i atal tyrbin gwynt rhag cael ei adeiladu yn Nhalacharn wedi dechrau heddiw.

Rhoddodd Cyngor Sir Gâr sêl bendith i’r cynllun i godi’r tyrbin gyferbyn â chartref y bardd Dylan Thomas ym mis Mehefin.

Ond nawr mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r tyrbin gwynt wedi lansio adolygiad barnwrol i’r penderfyniad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, ni wnaeth cynghorwyr ymweld â’r safle cyn gwrthod cyngor eu swyddog cadwraeth i beidio â chaniatáu caniatâd cynllunio i godi’r tyrbin 45 metr o uchder.

Roedd cannoedd o brotestwyr, gan gynnwys Cymdeithas Dylan Thomas, yn gwrthwynebu’r cynllun, gan fynnu ei fod yn “gwawdio canmlwyddiant geni’r bardd”.

Derbyniodd y Cyngor 422 o lythyron yn gwrthwynebu’r cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Meddai’r barnwr heddiw y byddai’n cyhoeddi ei benderfyniad yn ystod yr wythnosau nesaf.