Jonathan Edwards
Mae’r bardd ifanc sydd wedi ennill un o brif wobrau barddoniaeth gwledydd Prydain wedi protestio yn erbyn distrywio murlun hanesyddol.

“Dychrynllyd” oedd gair Jonathan Edwards am y penderfyniad i chwalu llun mosaic yn dangos ymosodiad y Siartrwyr ar Westy’r Westgate yng Nghasnewydd yn 1839.

Mae’n gobeithio y bydd “rhywbeth gwych” yn cael ei godi yn gofnod o’r digwyddiad pan gafodd nifer o’r gwrthdystwyr tros ddemocratiaeth eu lladd gan filwyr. Y traddodiad o wrthwynebiad radical sydd wedi ei ysbrydoli yntau, meddai.

Mae gan y bardd o Crosskeys, gerllaw Casnewydd, gerdd am y murlun yn ei gyfrol My Family and Other Superheroes, a enillodd wobr Costa yng nghategori Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn ac sy’n cystadlu am y brif wobr gyffredinol yn ddiweddarach y mis yma.

“Fe gafodd honno ei sgrifennu ar adeg pan na allech chi ddychmygu y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd,” meddai wrth Golwg. “Mae’n ddychrynllyd meddwl y bydd plant yn tyfu lan heb i’r murlun fod yno.”

Hanes y Siartrwyr oedd wedi ei wneud yn ymwybodol o dreftadaeth y rhanbarth, meddai, a hynny’n cynnwys ymweliadau ysgol i weld y murlun a gafodd ei chwalu ddiwedd  2013 er gwaetha’ protestio lleol.

Mae yna gomisiwn, sy’n cynnwys cyn Archesgob Caergaint Rowan Williams a Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi ei sefydlu i ystyried cofeb yn lle’r murlun.

Doedd neb o gwbl ar gael i ateb cwestiynau yn swyddfa Cyngor Dinas Casnewydd – nhw oedd wedi rhoi’r gorchymyn i chwalu’r murlun yn ddirybudd er mwyn gwneud lle i ddatblygiad siopau.

  • Mae Jonathan Edwards hefyd wedi galw am ŵyl farddoniaeth fawr yng Nghymru, yn debyg i Ŵyl Aldeburgh yn nwyrain Lloegr. Fe fyddai hynny, meddai, yn tynnu at ei gilydd yr holl grwpiau barddoniaeth yn y wlad ac yn rhoi cyfle i genhedlaeth ddisglair o feirdd.

Cyfweliad gyda Jonathan Edwards yn rhifyn yr wythnos o Golwg