Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau fod person yn cael profion am Ebola mewn ysbyty yn ne Cymru.

Mae’r claf yn cael ei fonitro yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac wedi cael profion am yr haint marwol heddiw, yn ôl Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Credir fod y claf wedi teithio i ardal o Orllewin Affrica sydd wedi cael ei heffeithio gan Ebola a’i fod yn dangos symptomau posib o’r haint.

Dywedodd llefarydd bod mesurau yn cael eu cymryd o fewn yr ysbyty i ynysu’r claf a bod disgwyl canlyniadau’r profion cyn diwedd y dydd.

Daw’r achos wrth i nyrs o’r Alban fu’n gweithio yn Sierra Leone barhau mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty’r Royal Free yng ngogledd Llundain.